Dyma gyfrol i ddathlu tri deg mlwyddiant un o hoelion wyth rhaglenni Cymraeg y genedl, Rownd a Rownd. Ceir cyfraniadau gan sawl aelod o deulu'r gyfres - yn gast a chriw, ddoe a heddiw - yn ogystal â chasgliad o luniau sy'n rhoi blas, y tu ôl i'r llenni, i'r darllenydd o'r amrywiol adrannau a rolau sy'n rhan o wead cynhyrchiad o'r fath.